Content
The Welsh Language and the 1891 Census
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Gwenfair Parry & Mari A. Williams |
Cyhoeddwyd | 1999 |
ISBN | 0708315364 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £15.99 |
Maint | 237 x 154mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xiii+488 |
Hon yw’r bedwaredd gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau safonol ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Y mae’n ymwneud yn benodol â’r cyfrifiad a gynhaliwyd yng ngwanwyn 1891, pryd y rhifwyd siaradwyr y Gymraeg am y tro cyntaf erioed. Y mae’r cyfrifiad hwn yn cynnwys gwybodaeth ddibynadwy ynghylch gallu ieithyddol ac yn ffynhonnell hynod werthfawr i’r rheini sy’n ymddiddori yn y newid ieithyddol a oedd yn digwydd yng Nghymru ym machlud y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y gyfrol hon cyflwynir am y tro cyntaf ddadansoddiad manwl o dystiolaeth ieithyddol llyfrau’r cyfrifwyr, gan ganolbwyntio ar ugain ardal a ddewiswyd ar sail eu priodoleddau daearyddol, economaidd ac ieithyddol gwahanol. Rhoddir cryn sylw i lithriad ieithyddol rhwng cenedlaethau, effaith priodasau cymysg ar gadwraeth iaith o fewn y teulu, dylanwad mewnfudwyr ac ymraniad daearyddol ar sail iaith a diwylliant.
Y mae fersiwn Cymraeg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal: Miliwn o Gymry Cymraeg!