Content
The Welsh Language and its Social Domains 1801–1911
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | Geraint H. Jenkins |
Cyhoeddwyd | 1999 |
ISBN | 0708315739 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £25 |
Maint | 237 x 154mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xv+598 |
Hon yw’r bumed gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau safonol ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Ceir ynddi ddwy bennod ar hugain, wedi eu llunio gan arbenigwyr cydnabyddedig, yn ymdrin â statws y Gymraeg mewn gwahanol beuoedd cymdeithasol, gan gynnwys amaethyddiaeth, addysg, crefydd, gwleidyddiaeth, y gyfraith a diwylliant. Trafodir hefyd ymagweddau at y Gymraeg a’r ymgais i wrthsefyll y duedd i’w gwthio i’r cyrion.
Y mae fersiwn Cymraeg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal: ’Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’