Skip page header and navigation

The Welsh Language before the Industrial Revolution

Content

The Welsh Language before the Industrial Revolution
Holder Image
Awdur/Golygydd Geraint H. Jenkins
Cyhoeddwyd 1997
ISBN 070831418X
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£15.95
Maint 234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xiv+455

Dyma’r gyfrol gyntaf mewn cyfres arloesol o astudiaethau safonol ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg, maes syfrdanol o eang nad yw hyd yma wedi derbyn sylw dyledus. Ceir ynddi ddeuddeg pennod, wedi eu hysgrifennu gan arbenigwyr yn y maes. Ac eithrio’r bennod gyntaf, a neilltuwyd i drafod hanes y Gymraeg yn yr Oesoedd Canol, ymdrinnir â sefyllfa’r iaith yn y cyfnod rhwng y Deddfau Uno a dechrau’r Chwyldro Diwydiannol. Trafodir ei statws gwleidyddol a’r defnydd a wneid ohoni yn y llysoedd, yn ogystal â’i lle mewn crefydd, addysg ac ysgolheictod. Ystyrir y modd y ceisiwyd dyrchafu ei statws a’i bri er mwyn dileu’r gwarthnod a roddwyd arni gan y ‘cymal iaith’ ym 1536 ac er mwyn ei chyfoethogi a’i diogelu at y dyfodol.


Y mae fersiwn Cymraeg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal:  Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb.

‘Using many new approaches the contributing authors, all expert in their specialist fields, explore their different themes within highly innovative interdisciplinary frameworks … This pioneering volume must thus be regarded as an impressive demonstration of how unconventional sources can be exploited for particular ends. So, apart from the intrinsic personal interests that this book may have for individual readers, it must be regarded as a superb demonstration of methodology and analysis, data exploitation and management which, through the scholarly application of techniques, throws considerable new light on community life in past times.’ (Family & Community History)