Skip page header and navigation

01: Gwaith Bleddyn Ddu

Content

01: Gwaith Bleddyn Ddu
Holder Image
Awdur/Golygydd R. Iestyn Daniel
Cyhoeddwyd 1994
ISBN 0904058204
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 210 x 138 mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xv+81
 

Hon yw’r gyfrol gyntaf i ymddangos yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr. Bardd o Fôn a flodeuai c.1330–1385 oedd Bleddyn Ddu, neu Fleddyn Ddu Was y Cwd fel y’i hadwaenir mewn rhai llawysgrifau. Cadwyd inni chwe awdl o’i waith yn null y Gogynfeirdd, pump ohonynt yn rhai crefyddol a’r llall yn farwnad i un o Duduriaid Môn. Canodd hefyd nifer o englynion amrywiol, rhai ohonynt yn ddeifiol ddychanol. Golygir ei waith am y tro cyntaf yn y gyfrol hon. Ceir yma ragymadrodd yn trafod y bardd a’i waith, testun pymtheg o gerddi, ynghyd â darlleniadau amrywiol, aralleiriad i bob cerdd, nodiadau a mynegeion.

Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o gwales.com