Skip page header and navigation

02: Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn ac Eraill

Content

02: Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn ac Eraill
Holder Image
Awdur/Golygydd Nerys Ann Jones & Erwain Haf Rheinallt
Cyhoeddwyd 1995
ISBN 0904058204
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris
£10.00
Maint 210 x 138 mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xvii+235 

Golygir yn y gyfrol hon dair cerdd ar ddeg sy’n gynnyrch pedwar bardd o Fôn a ganai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, sef Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch. Ceir yma farwnadau a molawdau ar ffurf cywydd ac awdl i noddwyr pwysig megis Goronwy Fychan ap Tudur a’i wraig Myfanwy o Benmynydd, Hywel ap Goronwy ap Tudur Hen a oedd yn Archddiacon Môn, Syr Hywel ap Gruffudd a Dafydd Fychan ap Dafydd Llwyd o Drehwfa a Threfeilir. Ceir hefyd gerdd grefyddol faith gan Ruffudd Fychan a chywydd gofyn telyn i Risiart ap Syr Rhosier Pilstwn o Emral ym Maelor Saesneg.

Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o gwales.com