Content
03: Gwaith Huw ap Dafydd ap Llywelyn ap Madog
![Holder Image](/sites/uw/files/styles/media_component_3_4_sm/public/2023-11/Holder%20Image.jpg?h=0eade52c&itok=7HhMFK6R)
Awdur/Golygydd | A. Cynfael Lake |
Cyhoeddwyd | 1995 |
ISBN | 0947531149 |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Pris | £10.00 |
Maint | 234 x 156mm |
Fformat | Clawr papur/Paperback, xvii+235 |
Gwaith bardd a ganai yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg a welir yn y gyfrol hon, sef Huw ap Dafydd, mab Dafydd ap Llywelyn ap Madog o Nantglyn. Diogelwyd yn y llawysgrifau bedwar cywydd o waith y tad, a chynhwysir yma 23 cywydd mawl, marwnad a gofyn (ac un cywydd serch) o waith y mab ynghyd â phedwar darn yr erys peth amheuaeth ynghylch eu hawduraeth. Canodd Huw glodydd rhai o wŷr blaenllaw ei ddydd megis Syr Wiliam Gruffudd, Siambrlen Gwynedd, Syr Rhoser Salbri, Lleweni, a Robert ap Rhys, Plas Iolyn, ond cyfarchodd nifer o wŷr lleyg ac eglwysig a drigai yn y gogledd-ddwyrain nad erys ar glawr ganu iddynt gan yr un bardd arall.
Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o gwales.com