Skip page header and navigation

Celtic Culture:

Content

Celtic Culture: A Historical Encyclopedia - 5 Volumes

Holder Image
Awdur/Golygydd John T. Koch
Cyhoeddwyd 2006
ISBN 9781851094400
Cyhoeddwr ABC-CLIO
Pris
£354.00
Maint
285 x 220 mm, 5 cyfrol/volumes
Fformat Clawr caled/Hardback, 1538tt./pp., 367 o ddarluniau/illustrations

Bwriadwyd y Gwyddoniadur hwn, sy’n ffrwyth prosiect ymchwil pum mlynedd yn y Ganolfan, ar gyfer pawb sy’n ymddiddori ym maes astudiaethau Celtaidd yn ogystal â’r rhai sydd â diddordeb mewn meysydd cysylltiedig ac atodol, gan gynnwys y gwledydd Celtaidd unigol, eu hieithoedd a’u llenyddiaethau, eu harchaeoleg a’u hanes, eu chwedloniaeth a’u mytholeg. O ran ei gwmpas cronolegol, y mae’r Gwyddoniadur yn ymdrin â phynciau sy’n ymestyn o gyfnodau Hallstatt a La Tène yng nghyfnod cyn-Rufeinig diweddar Oes yr Haearn hyd ddechrau’r 21ain ganrif. Yn ddaearyddol, yn ogystal â chynnwys gwareiddiad Celtaidd Iwerddon, Prydain, a Llydaw (Armorica) o gyfnod yr henfyd hyd y presennol, cynhwysir hefyd Geltiaid Gâl, Iberia, a chanolbarth a dwyrain Ewrop, yn ogystal â Galatiaid gwlad Twrci heddiw, a dilynir y Celtiaid i gyfandiroedd America ac Awstralia. I’r rheini sy’n ymddiddori’n bennaf yng Nghymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, ymdrinnir â’r meysydd hynny’n fanwl o fewn eu cyd-destun ehangach.

  • 5 cyfrol
  • 1,500,000 o eiriau
  • 2,128 o dudalennau + lviii (fformat: colofn ddwbl, 8-1/2 x 11 modfedd)
  • 1,569 o erthyglau, yn amrywio o ran eu hyd o 100 i dros 10,000 o eiriau, sy’n ymdrin yn fanwl â maes astudiaethau Celtaidd ac wedi eu cydgysylltu drwy gyfrwng croesgyfeiriadau ym mhob erthygl
  • llyfryddiaeth yn cynnwys 10,000 o eitemau yng Nghyfrol 5
  • 367 o ddarluniau
  • 59 o fapiau
  • 338 o gyfranwyr sy’n arbenigwyr ym maes astudiaethau Celtaidd ledled y byd
  • Ar gael mewn print ac fel e-lyfr

Gellir archebu’r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com