Jessie Donaldson: Cofio Ymgyrchydd Gwrth-gaethwasiaeth o Abertawe ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
Nododd y Brifysgol Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, drwy rannu stori ysbrydoledig Jessie Donaldson o Abertawe, a frwydrodd yn ddewr yn erbyn caethwasiaeth yn America oddeutu 170 o flynyddoedd yn ôl. Traddododd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ddarlith am waith Jessie er mwyn dathlu a thynnu sylw at gyflawniadau, cyfraniadau, a gwytnwch yr athrawes a’r ymgyrchydd gwrth-caethwasiaeth.
Cynhaliwyd y ddarlith yn Ystafell Ddarllen y Brifysgol yn Adeilad Alex yn Abertawe, a hon oedd y ddarlith ddiweddaraf mewn cyfres flynyddol a drefnwyd mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Menywod y Brifysgol.
Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 oedd Ysbrydoli Cynhwysiant.
Meddai’r Athro Evans: “Mae Jessie wedi’i disgrifio’n arloeswr, a frwydrodd am gyfartaledd a newid, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn UDA. Ar un adeg disgrifiwyd ei stori fel un a oedd ‘wedi mynd yn angof.’ Fodd bynnag, mae hynny wedi newid erbyn hyn, gyda phlac glas i gydnabod yn falch ei chyfraniad yn Abertawe.
“Trwy arddangos naratifau amrywiol megis un Jessie, gallwn ni ysbrydoli pobl eraill tebyg iddi i rannu eu gwaith, gan feithrin cymdeithas fwy cynhwysol a grymusol.”
Mae’r plac glas a gyflwynwyd i waith Jessie i’w weld ar wal allanol Adeilad Dinefwr y Brifysgol yng nghanol y ddinas.
Fe’i dadorchuddiwyd yn 2021 ar 19 Mehefin – dyddiad y cyfeirir ato hefyd fel y ‘Juneteenth’, sef y dathliad hynaf hysbys o ddod â chaethwasiaeth i ben yn yr Unol Daleithiau.
Teithiodd Jessie i Ohio yn y 1850au i gadw tŷ diogel ar y ‘rheilffordd danddaearol’ enwog, ac roedd mewn perygl o gael dirwyon a dedfrydau o garchar am gynnig lloches a diogelwch i gaethion wrth iddynt geisio dianc o daleithiau’r de i ogledd America.
Cyflwynwyd yr enwebiad am blac glas i Gyngor Abertawe gan yr hanesydd diwylliannol o Abertawe, y ddiweddar Athro Jen Wilson, sylfaenydd Treftadaeth Jazz Cymru, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas yn y ddinas yn rhan o PCYDDS.
Bu’r Athro Wilson yn cynnal ymchwil i fywyd Jessie dros nifer mawr o flynyddoedd, yn cynnwys ymweld nifer o weithiau â Chanolfan Ryddid Genedlaethol y Rheilffordd Danddaearol yn Cincinnati, a meddai ar y pryd: “Yn 57 oed gadawodd Jessie Donaldson Abertawe i ddechrau bywyd hynod o wleidyddiaeth ryngwladol ar raddfa fawr, a’i thŷ hithau ar lannau Afon Ohio oedd y trydydd o’r tai diogel Cymreig i gaethion ar ffo.
“Gydol Rhyfel Cartref America bu Jessie yn gweithio wrth ochr ei ffrindiau, gan alluogi ffoaduriaid o’r planhigfeydd ar draws yr afon i geisio rhyddid.”
Yn dilyn y ddarlith cafwyd seremoni wobrwyo i nodi a dathlu cyflawniadau menywod ar draws y Brifysgol.
Meddai Caroline Lewis, Pennaeth (interim) Canolfan Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth y Brifysgol ac un o’r menywod a sefydlodd Rwydwaith Menywod y Brifysgol: “Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod roeddem yn falch iawn o allu dod â chydweithwyr at ei gilydd i gydnabod cyflawniadau’r gorffennol tra hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol ac i dynnu sylw at waith y rheini sy’n gweithio i ddatblygu cymdeithas fwy cynhwysol.
‘Yn y digwyddiad, dathlwyd rheini a enwebwyd am wobr ‘Menywod y Flwyddyn’ Rhwydwaith y Menywod, gan nodi’r cyfraniad anhygoel mae cydweithwyr yn ei wneud yn barhaus i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau i’n staff a’n myfyrwyr.”
Nodyn i Olygyddion
Ganwyd Jessie yn 1799, yn ferch i’r cyfreithiwr Samuel Heineken a’i mam Jennet. Bu’n byw mewn tŷ teras tri llawr ym Maes Dinefwr, Abertawe, am 41 o flynyddoedd gyda’i chwaer Mary a’i brawd Samuel.
Yn y 1820au agorodd ysgol yn Stryd y Gwynt ac yn 41 oed yn 1840 priododd Jessie â Francis Donaldson.
Sefydlon nhw gartref mewn tŷ teras tri llawr yn Grove Place lle buon nhw’n byw am 16 mlynedd.
Yn 1854 ymfudodd y cwpl i Cincinnati a byw yno gydol Rhyfel Cartref America (1861-65) a gychwynnodd yn bennaf o ganlyniad i bwnc llosg caethwasiaeth.
Dychwelodd y cwpl i Abertawe yn 1866 gan fyw am gyfnod byr yn Phillips Parade cyn symud i Ael-y-bryn, Sgeti. Bu farw Jessie yn 1889.