Man, Myth and Museum: Iorwerth C. Peate and the Making of the Welsh Folk Museum
Y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, cyhoeddir Man, Myth and Museum: Iorwerth C. Peate and the Making of the Welsh Folk Museum gan Eurwyn Wiliam.
Dyma’r astudiaeth gyntaf o waith Iorwerth C. Peate, yr arloeswr ym maes amgueddfeydd awyr agored ym Mhrydain. Gosodir ei waith fel ysgolhaig a churadur yng nghyd-destun yr ugeinfed ganrif. Mae’r cyfieithiadau a’r crynodebau o destunau Cymraeg yn cynnig cyfle amheuthun i gynulleidfa gwbwl newydd ddysgu am waith Peate.