'Swansea's Royal Institution and Wales's First Museum'
Y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, cyhoeddwyd Swansea’s Royal Institution and Wales’s First Museum wedi’i olygu gan Helen Hallesy gyda Gerald Gabb. Yn 1841, sefydlwyd amgueddfa gyntaf Sefydliad Brenhinol De Cymru yn Abertawe. Yn y gyfrol hon, mae awduron arbenigol yn disgrifio dechreuadau’r sefydliad fel cymdeithas ddysgedig, a’i oroesiad hyd at ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. Mae’r gyfrol, sydd wedi’i darlunio’n gyfoethog drwyddi, yn datgelu’r casgliadau amrywiol a chynhwysfawr o fewn amgueddfa Abertawe.