Skip page header and navigation

Gwasanaethau Cyn-fyfyrwyr

Gwasanaethau Cyn-fyfyrwyr

Waeth pryd y gwnaethoch raddio, efallai y bydd cyfnodau pan fyddwch angen gwasanaethau neu gyngor Prifysgol Cymru. Yn ogystal â’r buddion amrywiol sydd ar gael, mae gan gyn-fyfyrwyr hefyd hawl i’r gwasanaethau canlynol.

Cadarnhad o Ddyfarniad neu Gymhwyster 

Gall y gwasanaeth hwn, sydd fel arfer yn briodol i’w ddefnyddio gan ddarpar gyflogwyr, sefydliadau addysgol a thrydydd partïon perthnasol eraill, gadarnhau a ydych chi wedi cael dyfarniad penodol gan Brifysgol Cymru, a’ch galluogi i ddilyn eich dewis o yrfa neu ddewisiadau addysgol. Nodwch fod ffi fach o £15 am bob copi caled y gwneir cais amdano a £5 am bob copi ychwanegol wedi hynny. Caiff manylion Cadarnhau Dyfarniad drwy ebost eu hanfon yn ddi-dâl.

Gwasanaeth Ar-lein ar gyfer Dilysu Tystysgrif

Ar gyfer tystysgrifau a ddyroddwyd ar ôl 1 Tachwedd 2007, mae’n bosibl defnyddio ein gwasanaeth ar-lein i ddilysu tystysgrif gan ddefnyddio’r rhif 32 digid a welir ar y dystysgrif. Rhoddir cadarnhad o fanylion y dyfarniad a ddelir gan Brifysgol Cymru pan gaiff cod GUID dilys ei nodi.

Trawsgrifiad / Atodiad Diploma

Mae Prifysgol Cymru’n rhoi opsiwn i raddedigion canolfannau cydweithredol gael copi amnewid o drawsgrifiad neu atodiad diploma sy’n cadarnhau holl fanylion eu cwrs am ffi o £20.00.

Tystysgrifau Amnewid

Os fyddwch yn difrodi neu’n colli eich tystysgrif, gallwch wneud cais i gael un arall am ffi fechan.

Copïau Ardystiedig o Dystysgrif Gradd a Thrawsgrifiad/Atodiad Diploma

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i raddedigion Prifysgol Cymru sy’n dymuno ardystio copi o’u tystysgrif neu drawsgrifiad/atodiad diploma gwreiddiol, er mwyn gallu ei gyflwyno i’r sefydliad neu’r gwasanaethau gwirio perthnasol.

Codir tâl o £10.00 am bob archeb o gopïau ardystiedig. Cwblhewch ffurflen gais ac uwchlwytho’r dogfennau drwy’r ddolen isod;Y cyfnod prosesu ar gyfer ardystio dogfennau swyddogol Prifysgol Cymru yw 5-10 diwrnod gwaith.

Am ragor o wybodaeth ar unrhyw un o’r gwasanaethau hyn cysylltwch â’r Gofrestrfa ar registryhelpdesk@wales.ac.uk.a