Skip page header and navigation

Cadarnhau Tystysgrif

Cadarnhau Tystysgrif

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych chi’n dymuno dilysu Tystysgrif sydd â Rhif Dynodi Tystysgrif wedi’i hargraffu arni (Tystysgrifau ar ôl 1 Tachwedd 2007)

Beth yw Rhif Dynodi Tystysgrif?  

Rhif 32 digid sydd wedi’u hargraffu ar eich tystysgrif yw hwn, sy’n cynnwys rhifau a llythrennau. Mae’r rhif hwn yn unigryw i Brifysgol Cymru a’r broses o ddyroddi dyfarniadau.

Ble mae i’w weld ar y Dystysgrif?

Mae i’w weld yn y cornel ar waelod ochr dde’r dystysgrif

Beth ddylwn ei wneud os nad oes rhif dynodi ar y Dystysgrif?

Nid oes gan dystysgrifau cyn 1 Tachwedd 2007 rif dynodi arnynt.

Nodwch: Caniateir i fyfyrwyr ofyn i’r Brifysgol ddal eu gwybodaeth yn ôl o’r broses awtomatig hon felly mae’n bosibl na fydd modd dod o hyd i gofnod. NID yw hynny’n golygu bod y myfyriwr wedi methu â chyflawni’r cymhwyster a nodir, na bod y dystysgrif yn annilys. Mae’n golygu bod y myfyriwr, am ei resymau ei hun, wedi gofyn am breifatrwydd.

Os ydych chi’n dymuno cadarnhau neu gwestiynu dyfarniad Prifysgol Cymru, cyfeiriwch at ein tudalen gwe benodol am gyngor neu cysylltwch â Llinell Gymorth y Gofrestrfa: registryhelpdesk@cymru.ac.uk

Bydd cwblhau’r ffurflen hon yn dangos yr wybodaeth yn Saesneg a argraffwyd ar dystysgrif sydd â’r rhif dynodi a nodir gennych.