Skip page header and navigation

Copïau Ardystiedig o Dystysgrif Gradd a Thrawsgrifiad/Atodiad Diploma

Copïau Ardystiedig o Dystysgrif Gradd a Thrawsgrifiad/Atodiad Diploma

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i raddedigion Prifysgol Cymru sy’n dymuno ardystio copi o’u tystysgrif neu drawsgrifiad/atodiad diploma gwreiddiol, er mwyn gallu ei gyflwyno i’r sefydliad neu’r gwasanaethau gwirio perthnasol.

Canllawiau Cyffredinol

- Dim ond os yw’r copi gwreiddiol yn eich meddiant y gallwch wneud cais am gopïau ardystiedig o dystysgrif neu drawsgrifiad/atodiad diploma. Os nad ydy’ch tystysgrif/trawsgrifiad/atodiad diploma yn eich meddiant, a’ch bod yn dymuno copi amnewid, ewch i’n Siop Ar-lein, ‘Gwasanaethau i Raddedigion’

- Rhaid i chi ddarparu’r copi o’ch tystysgrif neu drawsgrifiad/atodiad diploma a lle bo’n briodol, Ffurflen Gais y Gwasanaethau Gwirio perthnasol (fel WES, ICAS etc.).  Gallwch wneud hyn drwy eu huwchlwytho drwy wasanaethau ein siop ar-lein

- Caiff y copïau gwreiddiol eu stampio, eu llofnodi a’u hardystio fel ‘copi gwir a chywir o’r gwreiddiol’. Nodwch mai dim ond copïau y gallwn ni eu hardystio ac nid y dystysgrif neu’r trawsgrifiad/atodiad diploma gwreiddiol.

- Y cyfnod prosesu ar gyfer ardystio dogfennau swyddogol Prifysgol Cymru yw 5-10 diwrnod gwaith. Byddwch yn ymwybodol y gall y broses hon gymryd mwy o amser os oes angen i ni gwestiynu ceisiadau os yw’r data’n anghyflawn, os nad yw’r data’n cydweddu â’n cofnodion myfyrwyr ni neu os graddiodd y myfyriwr cyn 1983 (cyn cyfnod ein cofnodion cyfrifiadurol).

- Codir tâl o £10.00 ynghyd â chludiant am y gwasanaeth hwn.

NODWCH: DIM OND DOGFENNAU A DDYRODDWYD GAN BRIFYSGOL CYMRU Y GALLWN NI EU HARDYSTIO. NI ALLWN DDILYSU TRAWSGRIFIADAU A DDYRODDWYD YN UNIONGYRCHOL GAN Y SEFYDLIAD A FYNYCHWYD GENNYCH. CYSYLLTWCH YN UNIONGYRCHOL Â’R SEFYDLIAD I GAEL DILYSIAD.