Skip page header and navigation

Y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, byddwn yn cyhoeddi Cranogwen gan Jane Aaron. Yn y gyfrol hon, dilynir trywydd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus.

Yn ogystal, cyhoeddir y gyfrol nesaf yn ein cyfres Gwyddonwyr Cymru, Griffith Davies gan Haydn E. Edwards. Hanes bywyd a gwaith y mathemategydd a’r actiwari Griffith Davies yw’r gyfrol hon. Mae’r llyfr yn disgrifio ei addysg a’i waith, gan roi disgrifiad o gefndir cymdeithasol ac economaidd y cyfnod. Rhoddir sylw yn y llyfr i’r cyfraniad sylweddol a wnaeth Griffith Davies i addysg, i hawliau ei gyd-Gymry, ac i’r broses astrus o osod sylfaen i’w broffesiwn fel actiwari.

cover of Cranogwen

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau